Y ffeithiau go iawn am iechyd meddwlWeithiau pan fyddwch chi'n teimlo'n isel, byddwch chi'n teimlo fel does neb o gwmpas yn meddwl amdanoch neu eich bod chi ar eich pen eich hun.
Felly mae rhywun yn estyn llaw ac yn rhoi gwybod i chi dydych chi ddim ar eich pen eich hun yn help sylweddol.
Dwi wastad wedi edmygu Dad. Fe yw un o fy arwyr. Fe yw brennin jôcs sâl! Bydden ni'n siarad efallai am y problemau sydd gen i neu hyd yn oed problemau sydd gan Dad. Mae'n dweud fy mod i'n rhoi cyngor da a dwi'n teimlo'r un peth amdano fe. Rydyn ni'n helpu ein gilydd.
Dwi'n unigolyn sy'n dwli ar chwerthin ac yn dwli ar wneud i bobl eraill chwerthin. Os ydych chi'n gallu chwerthin am rywbeth, mae'n gallu rhyddhau'r holl densiwn neu'r tristwch ynoch chi ac mae'n gallu newid eich agwedd am y diwrnod.
Pe bai pobl yn newid o fy nghwmpas, byddai'n gwneud i mi deimlo ar goll. Byddai'n gwneud i mi deimlo'n llai fel fi fy hun.
Mae angen pobl yn eich bywyd sy'n eich atgoffa mai'r un person ydych chi o hyd.
Does dim rheolau o ran beth mae rhaid i chi ei wneud. Mae pawb yn wahanol ac mae pethau gwahanol yn helpu pobl wahanol.
Felly, estyn llaw ataf i yw bod gerllaw rhywun.
Mae'n rhywbeth mae unrhyw un yn gallu ei wneud.
Rhoi gwybod i rywun eich bod chi gerllaw a'ch bod chi'n deall.
Dod ynghyd a chwrdd â ffrindiau.
Chwerthin gyda'ch gilydd.
Dyma'r pethau bychain sy'n fy helpu i ddal ati.
Anya ydw i a dwi'n byw gydag iselder.